Skip to main content

Wedi’i sefydlu yn 2021, mae Ymddiriedolaeth Feicio Geraint Thomas (GTCT) yma fel y gall pob person ifanc gymryd rhan mewn beicio a mwynhau ysbryd y gamp, waeth beth fo’u hamgylchiadau unigol.

Mae beicio yn cael ei gydnabod fel grym er daioni heddiw, yn fwy nag erioed. Yn ogystal â bod yn llesol i iechyd corfforol a meddyliol, mae beicio’n helpu i adeiladu cryfder, annibyniaeth a hyder; mae’n rhoi cyfle i deuluoedd ymarfer gyda’i gilydd ac mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau. Mae beicio hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at dargedau’r Llywodraeth o deithio mwy egnïol, sydd yn ei dro yn helpu’r amgylchedd.

Ond er yr holl fuddion hyn, mae dal i fod llawer o rwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan yn y gamp. Mae’r rhain yn cynnwys costau prynu beic ac offer diogelwch sylfaenol, diffyg sgiliau i atgyweirio beiciau a phrinder lle i storio offer. Mae’r diffyg gwybodaeth am sut i reidio’n ddiogel yn ogystal â mynediad i gyfleoedd i bobol ifanc wneud hynny yn rhwystrau pellach. Mae hefyd angen ehangu beicio i gynulleidfa fwy amrywiol, gan sicrhau fod cyfle gan bobl ifanc o bob cefndir cymdeithasol a’r holl nodweddion gwarchodedig i gymryd rhan. A dyma pam y sefydlwyd Ymddiriedolaeth Feicio Geraint Thomas (GTCT).

Beth ydyn ni’n mynd i’w wneud?

• Byddwn ni’n darparu cronfa gymorthdal a rhaglen gymorth i bobl ifanc.
• Byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau beicio eraill i hyrwyddo beicio.
• Byddwn ni’n datblygu rhwydwaith o fentoriaid cymunedol gwirfoddol i gefnogi cyfranogiad pobl ifanc o fewn y gamp.
• Byddwn ni’n partneru â sefydliadau, clybiau ac ysgolion lleol fydd yn gallu gwneud ceisiadau ac atgyfeiriadau am gefnogaeth gennym ni.
• Byddwn ni’n gweithio gydag eraill o fewn y sector beicio, gan gynnwys sefydliadau fel Beicio Cymru, manwerthwyr ac elusennau eraill.

Sut fydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu er mwyn gweithredu rhaglen grantiau, gan ddarparu pecyn cymorth i unigolion a sefydliadau pobl ifanc hyd at 18 oed yng Nghymru a Lloegr.

Cysylltwch â’r GTCT

I ddysgu mwy am y bobl sy’n ymwneud â’r Ymddiriedolaeth, gallwch ymweld â’r dudalen ‘Ein Hymddiriedolwyr’ neu os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost atom – info@gtct.co.uk